Clwb Brecwast

Cynhelir y Clwb Brecwast yn ystod y tymor rhwng 8 – 8.45 yb yn y ffreutur ac mae’n agored i bob plentyn sy’n mynychu’r ysgol. Mae’r brecwast a’r gofal AM DDIM.

Rhaid i bob plentyn gael ei gofrestru – mae ffurflenni cofrestru ar gael o’r ysgol neu o’r clwb brecwast.

Mae yna frecwast iachus ar gael rhwng 8 – 8.30 y.b – sudd ffrwyth, llaeth, grawnfwyd, ffa pob ar dost a tost. 

Mae gennym weithgareddau fel gemau bwrdd, lliwio, jigsos a llyfrau darllen ar gyfer y plant tan iddynt fynd i’w dosbarthiadau am 8.45 y.b.

Cliciwch yma i ddarganfod mwy am Brecwast am Ddim Ysgolion