Ysgol Gynradd Wirfoddol Rheoledig Glanyfferi

	
		
	
	
	

Croeso i wefan yr ysgol. Rydym yn gobeithio y byddwch yn ei chael yn ddefnyddiol, yn ddiddorol ac yn llawn gwybodaeth. Rydym yn ceisio gwneud dysgu yn hwyl a gobeithio y bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn ein gwefan. Rydym yn dal i ddatblygu ein gwefan ac ychwanegu deunyddiau newydd – edrychwch ar Facebook – mae dolen cyswllt ar y tudalen am y newyddion a gwybodaeth diweddaraf.

Ysgol wirfoddol, gynradd, gydaddysgol, ddyddiol yw Glan y Fferi. Fe’i hadeiladwyd yn y flwyddyn 1856, a lleolir yr adeilad garreg lwyd, nodweddiadol o oes Fictoria, yng nghanol y pentref sydd ryw dair milltir o dref Cydweli a naw milltir o dref Caerfyrddin. Yn fras y dalgylch yw plwyf Sant Isfael, sy’n cynnwys Glan-y-fferi, Llansaint, Sant Isfael, Broadway a Broadlay.

Dysgir dau ddosbarth yn y prif adeilad. Mae yna ddau gaban wrth gefn yr ysgol. Defnyddir un fel ffreutur ac mae’r llall yn cynnwys dwy ystafell ddosbarth. Mae’r rhain yn cael eu defnyddio fel ystafelloedd amlbwrpas, gan gynnwys neuadd addoli dyddiol a chanolfan Cylch Meithrin Glanyfferi. Cynhelir clwb brecwast yn y ffreutur yn feunyddiol. Mae’r Clwb ar ôl Ysgol yn cwrdd tair noson yr wythnos yn y Caban.

Mae ein hardal waith a chwarae allanol yn datblygu’n barhaol, gyda glaswellt wrth flaen yr ysgol a gwelyau blodau a llysiau, sydd hefyd yn cefnogi ein prosiectau eco a bwyta iach.

Mae’r ysgol yn darparu amgylchedd cefnogol a chroesawgar i’r disgyblion, sy’n eu
hannog i fod yn aelodau gwerthfawr o ‘deulu’ yr ysgol.

Mae’r cwricwlwm yn cael ei gynllunio’n fwriadus i godi ymwybyddiaeth y disgyblion
o’u hardal leol. Hyrwyddir diwylliant, iaith a threftadaeth Cymru yn effeithiol a defnyddir ymwelwyr ac ymweliadau yn briodol i gyfoethogi ac i ymestyn profiadau’r disgyblion.