Ysgol Glanyfferi

	
		
	
	
	

Croeso i wefan yr ysgol. Rydym yn gobeithio y byddwch yn ei chael yn ddefnyddiol, yn ddiddorol ac yn llawn gwybodaeth. Rydym yn ceisio gwneud dysgu yn hwyl a gobeithio y bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn ein gwefan. Rydym yn dal i ddatblygu ein gwefan ac ychwanegu deunyddiau newydd – edrychwch ar Facebook a Trydar – mae dolen cyswllt ar y tudalen am y newyddion a gwybodaeth diweddaraf.

YSGOL WIRFODDOL, GYNRADD, GYDADDYSGOL, DDYDDIOL YW GLAN Y FFERI. FE’I HADEILADWYD YN Y FLWYDDYN 1856, A LLEOLIR YR ADEILAD GARREG LWYD, NODWEDDIADOL O OES FICTORIA, YNG NGHANOL Y PENTREF SYDD RYW DAIR MILLTIR O DREF CYDWELI A NAW MILLTIR O DREF CAERFYRDDIN. YN FRAS Y DALGYLCH YW PLWYF SANT ISFAEL, SY’N CYNNWYS GLAN-Y-FFERI, LLANSAINT, SANT ISFAEL, BROADWAY A BROADLAY.

DYSGIR DAU DDOSBARTH YN Y PRIF ADEILAD. MAE YNA DDAU GABAN WRTH GEFN YR YSGOL.DEFNYDDIR UN FEL FFREUTUR AC MAE’R LLALL YN CYNNWYS DWY YSTAFELL DDOSBARTH. DEFNYDDIR RHAIN FEL YSTAFELLOEDD AMLBWRBAS, GAN GYNNWYS NEUADD A CHANOLFAN ADNODDAU.CYNHELIR CLWB BRECWAST YN Y FFREUTUR YN FEUNYDDIOL. MAE CYLCH MEITHRIN GLAN Y FFERI YN CWRDD YN Y CABAN AR SAFLE’R YSGOL BOB BORE. MAE’R CLWB AR ÔL YSGOL YN CYFARFOD DWY NOSON YR WYTHNOS YN Y CABAN.

MAE EIN HARDAL WAITH A CHWARAE ALLANOL YN DATBLYGU’N BARHAOL, GYDA GLASWELLT WRTH FLAEN YR YSGOL A GWELYAU BLODAU A LLYSIAU, SYDD HEFYD YN CEFNOGI EIN PROSIECTAU ECO A BWYTA IACH.

Mae’r ysgol yn darparu amgylchedd cefnogol a chroesawgar i’r disgyblion, sy’n eu
hannog i fod yn aelodau gwerthfawr o ‘deulu’ yr ysgol.

Mae’r cwricwlwm yn cael ei gynllunio’n fwriadus i godi ymwybyddiaeth y disgyblion
o’u hardal leol. Hyrwyddir diwylliant, iaith a threftadaeth Cymru yn effeithiol a defnyddir ymwelwyr ac ymweliadau yn briodol i gyfoethogi ac i ymestyn profiadau’r disgyblion.